7 Hydref 2015

Annwyl Gyfaill,

 

Ar y Pwyllgor Busnes mae Aelod Cynulliad o bob un o'r grwpiau gwleidyddol sy’n cynrychioli'r pedair plaid wleidyddol yn y Cynulliad, gyda'r Llywydd yn gadeirydd. Mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am drefnu Busnes y Cynulliad ac am hwyluso'r gwaith o drefnu trafodion y Cynulliad yn effeithiol.

 

Mae'r Pwyllgor wedi penderfynu cynhyrchu adroddiad etifeddiaeth i adolygu'r gwaith a wnaed ganddo yn y pum mlynedd diwethaf. Mae'r Pwyllgor bellach yn ceisio barn pobl ledled Cymru am waith a wnaed gan y Pwyllgor Busnes—gwaith sy'n cynnwys dadansoddiad o'r strwythurau a roddwyd ar waith ganddo, y diwygiadau gweithdrefnol a gyflwynwyd ganddo, a'i ffyrdd o weithio. Bydd yr adroddiad terfynol yn helpu i lywio'r pwyllgor olynol gyda phenderfyniadau allweddol ddechrau'r Pumed Cynulliad ar ôl yr etholiadau ym mis Mai 2016.

 

Mae'r Pwyllgor yn awyddus i glywed barn pawb sydd am roi sylw, yn arbennig ynglŷn â'r cwestiynau yn Atodiad A i'r llythyr hwn. Gwnewch yn siŵr bod eich cyflwyniad yn cyrraedd erbyn 13 Tachwedd 2015. Mae'n bosibl na fydd modd ystyried ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

 

Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig o'ch cyflwyniad i SeneddPwyllgorBusnes@Cynulliad.Cymru. Fel arall, gallwch ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor, Y Pwyllgor Busnes, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.  Gallwch hefyd ddefnyddio'r ffurflen ar-lein, sydd ar gael ar ein gwefan. 

Mae croeso i chi anfon y llythyr hwn ymlaen at unrhyw un arall a all fod am gyfrannu. Bydd copi o'r llythyr hwn hefyd ar gael ar wefan y pwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth yn www.assemblywales.org/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm. Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.  Mae copi caled o'r polisi hwn ar gael ar gais drwy gysylltu â'r Clerc.

 

Dymuniadau gorau,

 



Y Fonesig Rosemary Butler AC

Cadeirydd, y Pwyllgor Busnes

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Atodiad A

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad:

 

Yn ystod y Cynulliad presennol, mae'r Llywydd a'r Pwyllgor Busnes wedi cyflwyno nifer o ddiwygiadau gweithdrefnol, gan gynnwys newid y dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Llafar y Cynulliad, cyflwyno Dadleuon Aelodau Unigol rheolaidd, a chwestiynau arweinwyr a llefarwyr y pleidiau.

 

o   Pa effaith a gafodd y diwygiadau hyn o ran galluogi Aelodau i gynrychioli eu hetholwyr a dwyn y Llywodraeth i gyfrif?

Am y tro cyntaf, mae strwythur pwyllgorau'r Pedwerydd Cynulliad wedi cyfuno craffu ar bolisi a chraffu deddfwriaethol o fewn yr un pwyllgorau.

 

o   Pa mor effeithiol y mae'r dull hwn wedi bod a sut mae'r pwyllgorau wedi sicrhau cydbwysedd rhwng eu gwaith craffu ar bolisi, craffu ariannol a chraffu deddfwriaethol?

o   Pa newidiadau y gellid eu gwneud i faint a strwythur pwyllgorau yn y dyfodol i'w gwneud yn fwy effeithiol?

Y Pwyllgor Busnes sy'n gyfrifol am bennu amserlen y Cynulliad, gan gynnwys amserlennu cyfarfodydd y pwyllgorau. Ar hyn o bryd, cynhelir y Cyfarfod Llawn ar brynhawn Mawrth a phrynhawn Mercher, gyda phwyllgorau yn cwrdd yn bennaf ar fore Mawrth a bore Mercher a dydd Iau.

 

o   A yw amserlen bresennol y Cynulliad, gan gynnwys strwythur yr wythnos waith a sesiynau'r pwyllgorau / Cyfarfod Llawn yn sicrhau'r cydbwysedd cywir o ran y defnydd o amser y Cynulliad, a chaniatáu iddo gyflawni ei swyddogaethau'n effeithiol o ran deddfu, cynrychioli pobl Cymru a dwyn y Llywodraeth i gyfrif;

Y Pwyllgor Busnes sy'n gyfrifol am sefydlu amserlenni ar gyfer pwyllgorau i ystyried Biliau a Chynigion Cydsyniad Deddfwriaethol, yn unol â'r Rheolau Sefydlog.

o   A yw'r prosesau presennol ar gyfer amserlennu deddfwriaeth - gan gynnwys Biliau a Chynigion Cydsyniad Deddfwriaethol - yn caniatáu ar gyfer craffu priodol ac ymgysylltu gan Aelodau a rhanddeiliaid? A ellid eu gwneud yn fwy effeithiol?

Yn wahanol i bwyllgorau cyfatebol mewn llawer o deddfwrfeydd eraill, mae Pwyllgor Busnes y Cynulliad yn cyfuno'r swyddogaeth o amserlennu busnes y Cynulliad gyda swyddogaethau 'pwyllgor gweithdrefnau' sy'n gyfrifol am ystyried a chynnig newidiadau i Reolau Sefydlog a gweithdrefnau'r Cynulliad.

 

o   Beth yw manteision ac anfanteision y rôl ddeuol hon, ac a oes achos dros ei hadolygu?